Maht 180 lehekülgi
Raamatust
Yn ôl ysgolheigion ffeministaidd mae tystiolaeth bendant ynglŷn â'r ffordd y mae cyfraniad menywod i ddrama, theatr a pherfformiad yn aml iawn yn cael ei hepgor, ei 'ysgrifennu allan', ei osod ar yr ymylon yn ddiwylliannol a'i wneud yn anweledig. Ac mae'n ffaith nad oes fawr o astudiaeth o hanes y theatr yng Nghymru sydd naill ai'n cydnabod neu'n cynrychioli gwaith ysgrifennu menywod ar gyfer y theatr Gymraeg. Yn y cyd-destun hwn, mae'r gyfrol hon sydd yn ddilyniant i gyfrol arloesol Theatr Y Gymraes yn trafod gwaith Sera Moore Williams yn ymdrech i lenwi'r bylchau a chyfoethogi'r hanes trwy ddogfennu tair drama ysgrifenwyd a perfformiwyd gan Sharon Morgan i Rhosys Cochion. Yn anorfod ac yn anad dim mae'r testunau a'r cyddestun a roddir iddynt yn cyfeirio at y profiad diwylliannol o fod yn fenyw ac yn Gymraes, at hunaniaeth a'r estheteg fenywaidd sydd yn cydnabod y corff benywaidd fel gwraidd creadigrwydd.